Saerhâd

Golwg un-llygeidiog ar amryw bethau

Monday, January 24, 2005

Cyson di'n enw canol i

...Ond stori arall di honna.

Dwi nol (eto) ar ol methu trwsio'r broblam efo negeseuon a ballu. Dio'm bwys beth bynnag, achos mae hynny'n gweddu efo'n natur unbenaidd. Ar ben hynna mae angen darllenwyr i adael nhw'n y lle cyntaf, a duw a wyr os oes na unrhyw un o rheina ar ol erbyn hyn, os oedd na rioed yn lle cynta'. 'Blaw am G-force. Iawn cont!

Cymran eiriol, dim ond taflu geiria i'r gwyll a piso'n y gwynt.

Mi fyddai nol cyn bo hir.

Wir yr.

Hwyl!





Tuesday, October 19, 2004

Problam

Reit, mae wedi dod i'n sylw fod yna broblam efo'r dudalen 'ma. Yn ol bob golwg, 'di negeseuon pobol ddim yn dangos yma - dwi hyd yn oed wedi'n nghyhuddo o gael gwared ohono nhw'n hyn.

Wrth gwrs, clwydda 'di hynna. Jysd ddim yn dallt y blydi petha 'ma dwi.

(cau hi G-force, dwi 'rioed wedi dileu un o dy negeseuon.)

Felly dangoswch dipyn o fynadd tra dwi'n trio sortio'r broblam (ha! gawn ni weld - mwy na thebyg nai ond neud pethau'n waeth). Yn y cyfamser, darllenwch y Wind-Up Bird Chronicle.

Gyda llaw...Ryan Giggs? Fflach-gachu?! Methu sdopio cachu am dri chwartar awr?!? ffwcin hel.

Hwyl

Wednesday, October 06, 2004

Dim adolygiad - GORCHYMYN

Reit ta, dwi ddim am neud hyn yn amal gan mai cwyno yw'r thema'r yma. Ond y fi di'r bos, felly...

Yn ddiweddar cefais y fraint o ddarllen y llyfr gorau i mi erioed ei ddarllen...hyd yn hyn. Efallai eich bod wedi'i ddarllen yn barod, falla ddim. Beth bynnag, gwrandwch y 'ffernols.

Haruki Murakami - The Wind-Up Bird Chronicle

Mae'n hollol, hollol wych; a dyna'i gyd dwi'n mynd i ddeud. Yn ogystal a'ch gorchymyn i'w ddarllen.

Hwyl!


Taga ar f'acen y twat!

Ac felly, rhan 2. O ryw fath beth bynnag.

Felly dyna lle ro'n i, yn swyddfa'r adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, yn dal i fyny efo'r ambell beth i mi ei fethu yn yr wythnos gynt ac ati.

Ar fy ffordd allan o'r swyddfa ac yn dal i siarad gyda'r ysgrifenyddes, sylwi ar ddau hogyn yn sefyllian ac yn syllu'n syn ar ein sgwrsio. Wedi i'r ysgrifenyddes fynd yn ôl i'r swyddfa, a tra roeddwn yn 'sdudio'r notis bôrd, clywais damad o'i sgwrs.

"That's North Wales Welsh then innit"

Medd un. Acen...dwn i ddim. Mae unrhyw acen i'r de o Birmingham yn swnio'n eitha' tebyg i mi yn Saesneg. Di-acen fyddai'r disgrifiad gorau.

"Yeah, it just sounds like a bunch of gibberish spoken by someone with a sheep stuck in their throat, hur hur"

"Yeah. Hur, snick"

Atebodd y llall mewn modd Beavis-aidd.

"Taga ar f'acen y twat"

Medda fi dan fy ngwynt. Wel, fel tasa person trwm ei glyw yn ddeud dan ei wynt.

Peth nesa', dyma ddrws un o stafelloedd y darlithwyr yn agor. Blydi hel! Roedd y ddau grinc yma'n aros i weld darlithydd Cymraeg ?!?

"Reit, gallaf eich gweld chi nawr hogia'. Tyrd di fewn am sgwrs gyntaf, ac os alli di aros am ddeg munud?"

Nodiodd y llall ei ben mewn dealltwriaeth. Be ffwc?!?!

Hwyl!


Tuesday, October 05, 2004

Llawenhewch. Dwi nôl.

Gwir bob gair, dwi nôl a hynny ar ôl meddwl na fyddwn i byth a'n nhraed ar dir Cymreig byth eto. Peidiwch a gofyn - dwi'n dwat fatalistic nath byth goelio y byddai'r blydi awyren yn cyraedd nôl yn saff a mewn un darn. Ond diawl ots am hynny, na chwaith am lle fues i. Dwi ddim yma i sgwennu colofn deithio, dwi yma i gwyno.

Rhag ofn bo' chi'n meddwl fy mod i'n gont surbwch, mi allai ddeud wrtha chi rwan mai dim ond dwywaith ges i reswm i gwyno. A dyma'r cyntaf.

Dyna lle ro'n i, yn bell, bell i ffwrdd o adra yn mwynhau jygia' mawr o'r gwin lleol mewn bar bach distaw ar ochr ryw fynydd. Dim ond fi a'r Saeres a ffwc o olygfa (heb anghofio'r gwin, wrth gwrs). Sydyn reit, dyma na griw o bobol h^yn yn dod i eistedd ar y bwrdd nesa'. Felly dyma ddechra' gwrando ar sgwrs y bobl 'ma, achos ma na hwyl i'w gael 'does...

Sydyn reit, dyma'r hen glust oedd wedi bod yn hiraethu rai oriau yn nôl yn clywad amball swn cyfarwydd. Ac un arall, ac un arall, ond... pa iaith oedd y bobol yma'n siarad? Sydyn reit, daeth un frawddeg yn glir o afael gweddill y sgwrs.

"Yes, it's a helyfy fiw usnt ut, yes"

Wel, Saesneg oedd yr iaith ond doedd yna ddim dwywaith mai Cymro Cymraeg oedd y boi 'ma. A un o'n ardal i ar ben hynny, bendant. Roedd raid i fi o leia' deud helo rwan doedd. Ond ym mha iaith? Cofiwch do'n i heb glywad gair o Gymraeg gan r'un ohonyn nhw, Saesneg oedd iaith y sgwrs, felly o'r diwadd dyma fi'n troi atyn nhw ac yn deud yn fy Saesneg gwaetha' -

"Ecsciws mi. âr iw bai eni chans ffrom north wêls?"

"Ydym tad, o Ogledd Cymru! Un o le wyt ti?"

Blydi hel! Roedd bob un ohonyn nhw'n Gymry Cymraeg! Bob un wan jac! Ac wrth gwrs, gan ei bod nhw'n Gymry Cymraeg, roedd hi'n hawdd uffernol i ni wneud cysylltiadau'n sydyn iawn o ran "ti'n nabod pwy-a-pwy" ac ati. Gwych! Ond...

Dim tan i'r wefr o fod wedi bod yn ei morio hi yn y Gymraeg basio ac i'r sgwrs wahanu'n ôl i ddau fwrdd y daeth y gwyn atai. Roeddwn nhw'n dal i fod yn sgwrsio ymysg ei gilydd yn y Saesneg! Pam? Allai ddim dallt. O gwbwl. Yn enwedig o gofio fod pobol yn blino clywed gymaint o'r Saesneg dramor. Ar y pryd, meddylis i falla fod o rywbeth i wneud efo'r genhedlaeth h^yn, ond roedd heddiw'n ddigon i newid fy meddwl am hynny. Dwi'n si^wr gewch chi wybod am hynny cyn bo hir...wel, fory

Be ddiawl sy'n bod arno ni'r Cymry Cymraeg dwch? (Rhan 2 'fory)

Reit, dwi'n dod o gefn y ceffyl 'ma rwan. Dwi'n allergic i'r basdads beth bynnag.

Hwyl!






Thursday, August 26, 2004

Twat. Digwydd bod yn Sais. Ond Twat go iawn.

P'nawn da bobol, mae SAERHÂD yn ôl er gwaetha' "problemau technegol". Hynny yw, fi yn ffwcio o gwmpas yn trio cael y blydi peth yma i weithio ac yn gneud smonach llwyr ohoni. Felly am ryw reswm 'dwi 'di colli'r cwynion oedd wedi'i gadael yma gan rai ohono chi yn y dyddia' dwytha' 'ma. Ond dwi nôl rwan efo cot o baent a bron iawn popeth yn y Gymraeg, fel dylia hi fod 'de.

Beth bynnag, 'dwi yma i gwyno, felly ffwr' a fi. Dyma fi'n mynd i'r pictiwrs nithiwr efo'r annwyl Saeres. Dwi ddim yn mynd i sôn am y ffilm na'i adolygu, cewch fynd i'r 'Pictiwrs' am hynny, mae yna linc gyferbyn. (Na, dwi ddim yn dallt sut i osod y linc yn fama.)

Ia, lle o'n i rwan, o ia, pictiwrs nithiwr. Am ryw reswm i Landudno atho ni yn hytrach na Bangor. Well gen i gefnogi'r hen Plaza, ond doedd na ddim gwerth ei weld yna. Iesu gwyn dwi'n mwydro. Ta waeth.

Felly dyna lle'r oeddan ni, yng nghyffordd Llandudno efo hanner awr i fynd cyn dechra'r ffilm. Duw, peint fasa'n neis medda fi, felly ffwr' a ni i dy tafarn cyfagos. Wrth gerddad i mewn, dyma ryw foi yn deud rwbath am y Saeres. Mi ddewisiodd y ddau ohona ni ei anwybyddu, a mynd at y bar i nol peint cyn ffindio cornel ddistaw i'w fwynhau. Champion. Ond ddim am hir.

Dyma'r boi oedd tu allan yn dod fewn i'r dafarn, a dod ata ni. Roedd o'n bod yn boen-yn-din, trio siarad efo ni drw'r adag, a trio'n sialensu am gêm o pool am resymau twatlyd.

"Ey! Arr Kid! Play pool with me! I'll fuckin' beat ya! I'll take your woman! She fancies me, I can tell"

"Look, do you mind? You're harassing my girlfriend and being a pain. We don't want to play pool, we're off to the cinema in twenty minutes. So, please just - "

"Eyy! Wossis? Arr kid, c'mon! Play pool! I'll fuckin' 'ave you an' your woman!"

Rwan yn anffodus, dwi'n reit debyg i Meical Jacsyn mewn un ffordd. "Aim a lyfyr not a ffaityr". Ro'n i'n marw isio rhoi dwrn i'r boi 'ma. Roedd o'n ffwc o anghynnes tuag ata ni, ond do'n i ddim yn siwr faint o 'ffrindia' oedd ganddo fo yn y dafarn. Felly'r unig opsiwn oedd i drio bod yn rhesymol.

"C'mon our kid!" Ia, ffycin' manc oedd y boi 'ma. "I'll give you a head start! Two shots!"

"No. We're just finishing our drink and going to the cinema."

Peth ydi, faswn i wedi ffwcin hamro fo ar y pool. Mae gen i fwrdd SuperLeague yn y ty, felly dwi'n reit handi efo'r peli.

"C'mon you fuckin' student!" Petha'n dechra' troi'n gas. 'Di'r Saeres heb fod yn sdiwdant ers blynyddoedd, ac er fy mod i'n sdiwdant erbyn hyn, fetiai ganpunt mod i wedi talu mwy o drethi yn fy mywyd na'r coc-oen yma. Ond beth bynnag...

"Play pool! For your woman!"

"No. Piss off." Wedyn dyma'r 'hwyl' go iawn yn dechra'. Dyma'r boi yn troi at weddill y dafarn ac yn gweiddi:

"Who the fuck do these students think they are? Comin' into our country and acting like this. Fucking wankers."

Wel, os oedd ganddo ffrindia' neu beidio, roedd raid i fi ateb nôl. (a gyda llaw, ydio wir yn meddwl fod sdiwdants yn dod o wlad dramor? Sdiwd-yr-land?!)

"Coming into YOUR country? Which country's that then?"

"England innit!"

"Yeah well you're in Wales now. I'm Welsh, you're English. I think it's you that's come into my country. So who the fuck do you think you are, talking shit and harassing women, in MY country? "

Ffwcin hel roedd yr hen galon yn carlamu erbyn hyn, a'r adrenalin yn rhuthro drwyddai.

"Speak fucking English will you. I don't understand a word you're saying you fuckin' sheepshagger."

Gyda hyn, cododd criw o hogia' wrth y bar i'w traed. O ffwc. Ro'n i'n siwr fy mod i ar fin cal fy stido'n iawn. Gwasgais law y Saeres, a dyma hi'n gwasgu'n ôl, fel tasa ni'n deud ta-ta.

"Get out of this pub now" Medda'r mwya' o'r hogia'. Dyma'r Manc a fi'n edrach ar ein gilydd, methu deud wrth bwy oedd o'n siarad.

"Get out before we throw you out you manc wanker" A ffwrdd a fo heb ddeud un smic.

Ffw-cin hel, 'dwi 'rioed 'di teimlo rhyddhâd fel'na. Diolch yn fawr, hogia' calad cyffordd Llandudno!

Felly i gloi y stori hir-wyntog yma, ffwcinel ma'na wancars go iawn o gwmpas yn does? Digon i droi rwyn yn dori mynuffari.

Hwyl!

Wednesday, August 25, 2004

Blydi Maboljymps / Lle ddiawl mae'n nhgymdogion i ?!

Wel, mi ddudis i y byddwn i nôl yma i gwyno cyn gynted ag yr oedd gen i rywbeth i gwyno amdano. A duw â wyr, mae hyn yn fater hollbwysig. Anhegwch o'r eithaf. Anghyfiawnder afiach! Ffycin' Olympics!

Cyn i chi dagu ar eich tôst a gyrru Eusebio atai i dorri'n nghoesau, gwrandwch da chi. 'Sgen i ddim problem benodol efo maboljymps a 'lympics ac ati. Croeso i bawb o bobl y byd redag a neidio a ballu, heb sôn am daflu petha'. Awê.

OND!

Pam mae hyn yn golygu wythnosau heb fy hoff raglen (eto - peidwich a sôn am ffycin' Wimbyldyn...o leia' di'r 'lympics ond ymlaen bob pedair blynadd, thanc ffwc), dwi'n dueddol o wylltio. Os da chi heb ddyfalu eto pa raglen yw fy hoff raglen, yn wir, un o'n hoff raglenni ers 1987 neu rwbath felly, wel, rhag cywilydd. Pa raglen yw'r cynta' i gael ei daflu o'r ffordd er lles blydi tennis a maboljymps? Neighbours. Ia, Neighbours. Na, 'sgen i ddim cywilydd. O gwbwl.

Na, dwi heb golli arni, dwi flynyddoedd o flaen pawb. Eto. Pan fydd y rhaglen wych yma yn cael ei ddedfrydu i farwolaeth, mi fydd yna le yma...pawb yn beichio crio a deud gymaint o gariad oedd ganddynt at drigolion Ramsey Street. Pam? Am ei fod yn un o'r petha' gora' ar y bocs! Erioed!

Wir yr rwan, arhoswch efo fi. Mae'r rhaglen wedi bod drwy gyfnodau gwael (y Starks, e.e. - ffyc off. A Todd a Cody a ballu. Wancars) heb os, ond mae'r flwyddyn yma wedi bod yn flwyddyn wych i bobol fel fi sydd yn dallt y dalltins. Mae'r sgriptiau wedi gwella'n gyson, a mae rhai o'r actorion yn amlwg i weld yn mwynhau eu hunain. Ffycin gwych o raglen. Lle arall gewch chi Dr.K yn refio fatha nytar off 'i ben, Scotty Timmins yn fflasio'i dîn at geir, heb sôn am y ffordd hyn-od ma' Jack Scully wrthi'n trawsnewid i hick americanaidd ("Aww Maaaw!")? Hmmmm?

Allai ddim mynd 'mlaen mwyach am y 'rhen gymdogion - dwi'n dechra' teimlo'n drist, a hitha'n tynnu at amser cinio - amser Neighbours.

Felly, i gloi, twll tîn i'r 'lympics a twll tîn i bawb sydd yn anghytuno efo fi. Rhydd i bawb ei farn a ballu...ond ddim yn yr achos yma.

A dwi ddim yn bod yn eironig na ffyc-ôl fel'na. Dwi o ddifri. Mae'r rhaglan yn gachboeth, ac yn haeddu gwell triniaeth.

Hwyl, a cofiwch - mae pawb angen cymdogion da.

Monday, August 23, 2004

Croeso....am y tro

Un dau, un dau...

Tesdio, tesdio, un dau tri

Croeso i Saerhâd, blog Ifan Saer. Cyfle euraidd i fi ladd ar pawb a phopeth heb gael neb yn ateb yn ôl. Gwych!

Wel does gen i ddim lot o syniad efo'r petha' ma, felly maddeuwch i fi os ydi hwn am fod yn ddechreuad reit ddi - fflach i'r blog yma, blog sy'n barod yn arddangos addewid mawr i fod yn reit ffycin wych. Un ai hynny neu mi fydd yn hollol gachlyd. Gawn ni weld sut eith hi.

'Dwi ddim am sgwennu ffyc-ôl o bwys tan mod i'n gweld bod y peth yn gweithio'n iawn. A hyd yn oed wedyn, mi fydd raid i fi feddwl am rwbath o bwys i sgwennu yma. Achos allai ddeutha chi rwan, dwi'm yn meddwl y byddai'n sgwennu am unryw hen gachu sy'n dod i'm mhen, neu sut i fi wylltio gorod talu 45c am beint o lefrith bora 'ma. Ond wedi meddwl, falla gewch chi dipyn o hynna....faswn i'm yn synnu.

Felly am y tro, cymrwch ofal, a bihafiwch. Mi fyddai'n ôl cyn bo hir i roid y byd yn 'i le...neu beidio.

Hwyl