Croeso....am y tro
Un dau, un dau...
Tesdio, tesdio, un dau tri
Croeso i Saerhâd, blog Ifan Saer. Cyfle euraidd i fi ladd ar pawb a phopeth heb gael neb yn ateb yn ôl. Gwych!
Wel does gen i ddim lot o syniad efo'r petha' ma, felly maddeuwch i fi os ydi hwn am fod yn ddechreuad reit ddi - fflach i'r blog yma, blog sy'n barod yn arddangos addewid mawr i fod yn reit ffycin wych. Un ai hynny neu mi fydd yn hollol gachlyd. Gawn ni weld sut eith hi.
'Dwi ddim am sgwennu ffyc-ôl o bwys tan mod i'n gweld bod y peth yn gweithio'n iawn. A hyd yn oed wedyn, mi fydd raid i fi feddwl am rwbath o bwys i sgwennu yma. Achos allai ddeutha chi rwan, dwi'm yn meddwl y byddai'n sgwennu am unryw hen gachu sy'n dod i'm mhen, neu sut i fi wylltio gorod talu 45c am beint o lefrith bora 'ma. Ond wedi meddwl, falla gewch chi dipyn o hynna....faswn i'm yn synnu.
Felly am y tro, cymrwch ofal, a bihafiwch. Mi fyddai'n ôl cyn bo hir i roid y byd yn 'i le...neu beidio.
Hwyl

Mae 2 yn cwyno:
Am 24 August 2004 16:59, cwynodd
Gary…
Dechrau addawol iawn Mr Saer ;-)
Mae Nic wedi gwneud nodyn yn rhywle ar sut i newid y penawdau - 'dwi wedi llwyddo rhysut i wneud hy ar fy mlog i.
Am 24 August 2004 18:46, cwynodd
krustysnaks…
Edrych ymlaen yn eiddgar i ddarllen dy hanes.
Am gwyno?
<< Adra'