Saerhâd

Golwg un-llygeidiog ar amryw bethau

Tuesday, October 19, 2004

Problam

Reit, mae wedi dod i'n sylw fod yna broblam efo'r dudalen 'ma. Yn ol bob golwg, 'di negeseuon pobol ddim yn dangos yma - dwi hyd yn oed wedi'n nghyhuddo o gael gwared ohono nhw'n hyn.

Wrth gwrs, clwydda 'di hynna. Jysd ddim yn dallt y blydi petha 'ma dwi.

(cau hi G-force, dwi 'rioed wedi dileu un o dy negeseuon.)

Felly dangoswch dipyn o fynadd tra dwi'n trio sortio'r broblam (ha! gawn ni weld - mwy na thebyg nai ond neud pethau'n waeth). Yn y cyfamser, darllenwch y Wind-Up Bird Chronicle.

Gyda llaw...Ryan Giggs? Fflach-gachu?! Methu sdopio cachu am dri chwartar awr?!? ffwcin hel.

Hwyl

Wednesday, October 06, 2004

Dim adolygiad - GORCHYMYN

Reit ta, dwi ddim am neud hyn yn amal gan mai cwyno yw'r thema'r yma. Ond y fi di'r bos, felly...

Yn ddiweddar cefais y fraint o ddarllen y llyfr gorau i mi erioed ei ddarllen...hyd yn hyn. Efallai eich bod wedi'i ddarllen yn barod, falla ddim. Beth bynnag, gwrandwch y 'ffernols.

Haruki Murakami - The Wind-Up Bird Chronicle

Mae'n hollol, hollol wych; a dyna'i gyd dwi'n mynd i ddeud. Yn ogystal a'ch gorchymyn i'w ddarllen.

Hwyl!


Taga ar f'acen y twat!

Ac felly, rhan 2. O ryw fath beth bynnag.

Felly dyna lle ro'n i, yn swyddfa'r adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, yn dal i fyny efo'r ambell beth i mi ei fethu yn yr wythnos gynt ac ati.

Ar fy ffordd allan o'r swyddfa ac yn dal i siarad gyda'r ysgrifenyddes, sylwi ar ddau hogyn yn sefyllian ac yn syllu'n syn ar ein sgwrsio. Wedi i'r ysgrifenyddes fynd yn ôl i'r swyddfa, a tra roeddwn yn 'sdudio'r notis bôrd, clywais damad o'i sgwrs.

"That's North Wales Welsh then innit"

Medd un. Acen...dwn i ddim. Mae unrhyw acen i'r de o Birmingham yn swnio'n eitha' tebyg i mi yn Saesneg. Di-acen fyddai'r disgrifiad gorau.

"Yeah, it just sounds like a bunch of gibberish spoken by someone with a sheep stuck in their throat, hur hur"

"Yeah. Hur, snick"

Atebodd y llall mewn modd Beavis-aidd.

"Taga ar f'acen y twat"

Medda fi dan fy ngwynt. Wel, fel tasa person trwm ei glyw yn ddeud dan ei wynt.

Peth nesa', dyma ddrws un o stafelloedd y darlithwyr yn agor. Blydi hel! Roedd y ddau grinc yma'n aros i weld darlithydd Cymraeg ?!?

"Reit, gallaf eich gweld chi nawr hogia'. Tyrd di fewn am sgwrs gyntaf, ac os alli di aros am ddeg munud?"

Nodiodd y llall ei ben mewn dealltwriaeth. Be ffwc?!?!

Hwyl!


Tuesday, October 05, 2004

Llawenhewch. Dwi nôl.

Gwir bob gair, dwi nôl a hynny ar ôl meddwl na fyddwn i byth a'n nhraed ar dir Cymreig byth eto. Peidiwch a gofyn - dwi'n dwat fatalistic nath byth goelio y byddai'r blydi awyren yn cyraedd nôl yn saff a mewn un darn. Ond diawl ots am hynny, na chwaith am lle fues i. Dwi ddim yma i sgwennu colofn deithio, dwi yma i gwyno.

Rhag ofn bo' chi'n meddwl fy mod i'n gont surbwch, mi allai ddeud wrtha chi rwan mai dim ond dwywaith ges i reswm i gwyno. A dyma'r cyntaf.

Dyna lle ro'n i, yn bell, bell i ffwrdd o adra yn mwynhau jygia' mawr o'r gwin lleol mewn bar bach distaw ar ochr ryw fynydd. Dim ond fi a'r Saeres a ffwc o olygfa (heb anghofio'r gwin, wrth gwrs). Sydyn reit, dyma na griw o bobol h^yn yn dod i eistedd ar y bwrdd nesa'. Felly dyma ddechra' gwrando ar sgwrs y bobl 'ma, achos ma na hwyl i'w gael 'does...

Sydyn reit, dyma'r hen glust oedd wedi bod yn hiraethu rai oriau yn nôl yn clywad amball swn cyfarwydd. Ac un arall, ac un arall, ond... pa iaith oedd y bobol yma'n siarad? Sydyn reit, daeth un frawddeg yn glir o afael gweddill y sgwrs.

"Yes, it's a helyfy fiw usnt ut, yes"

Wel, Saesneg oedd yr iaith ond doedd yna ddim dwywaith mai Cymro Cymraeg oedd y boi 'ma. A un o'n ardal i ar ben hynny, bendant. Roedd raid i fi o leia' deud helo rwan doedd. Ond ym mha iaith? Cofiwch do'n i heb glywad gair o Gymraeg gan r'un ohonyn nhw, Saesneg oedd iaith y sgwrs, felly o'r diwadd dyma fi'n troi atyn nhw ac yn deud yn fy Saesneg gwaetha' -

"Ecsciws mi. âr iw bai eni chans ffrom north wêls?"

"Ydym tad, o Ogledd Cymru! Un o le wyt ti?"

Blydi hel! Roedd bob un ohonyn nhw'n Gymry Cymraeg! Bob un wan jac! Ac wrth gwrs, gan ei bod nhw'n Gymry Cymraeg, roedd hi'n hawdd uffernol i ni wneud cysylltiadau'n sydyn iawn o ran "ti'n nabod pwy-a-pwy" ac ati. Gwych! Ond...

Dim tan i'r wefr o fod wedi bod yn ei morio hi yn y Gymraeg basio ac i'r sgwrs wahanu'n ôl i ddau fwrdd y daeth y gwyn atai. Roeddwn nhw'n dal i fod yn sgwrsio ymysg ei gilydd yn y Saesneg! Pam? Allai ddim dallt. O gwbwl. Yn enwedig o gofio fod pobol yn blino clywed gymaint o'r Saesneg dramor. Ar y pryd, meddylis i falla fod o rywbeth i wneud efo'r genhedlaeth h^yn, ond roedd heddiw'n ddigon i newid fy meddwl am hynny. Dwi'n si^wr gewch chi wybod am hynny cyn bo hir...wel, fory

Be ddiawl sy'n bod arno ni'r Cymry Cymraeg dwch? (Rhan 2 'fory)

Reit, dwi'n dod o gefn y ceffyl 'ma rwan. Dwi'n allergic i'r basdads beth bynnag.

Hwyl!